Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) erbyn hyn wedi gosod botymau Hafan Ddiogel 999 ar bob un o’r 47 o Orsafoedd Tân ac Achub ar draws De Cymru. Ym mis Tachwedd 2021, cyflwynodd gorsafoedd GTADC y fenter Hafan Ddiogel, lle gall unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n cael ei hun mewn perygl dybryd fynd i un o’n gorsafoedd i ofyn am gymorth brys naill ai gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, neu’r heddlu. Hyd yn hyn eleni, bu 14 digwyddiad Hafan Ddiogel.
Ym mis Awst 2022, gosodwyd botymau llinell gymorth Hafan Ddiogel 999 ar sail prawf yng Ngorsaf Tredegar a Gorsaf Caerdydd Canolog. Yn dilyn llwyddiant y treial hwn, gosodwyd botymau llinell gymorth ym mhob Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub ar draws De Cymru.
Er mai’r Heddlu yw’r gwasanaeth brys cyntaf y dylid cysylltu ag ef, mae’r fenter hon yn caniatáu i unrhyw un sydd mewn perygl dybryd oherwydd cam-drin domestig, stelcian, neu unrhyw fygythiad arall sydd ar fin digwydd, fynd i’w Gorsaf GTADC agosaf i gael cymorth gan y criw, neu wasgu’r botwm 999 os nad oes criw yn bresennol ar y pryd. Mae’r datblygiad hwn o’r fenter Hafan Ddiogel ar wahân i achrediad y Rhuban Gwyn, ond mae wedi’i lansio fel rhan annatod o ymrwymiad parhaus y Gwasanaeth i leihau achosion o drais yn erbyn menywod a merched, ar draws rhanbarth De Cymru. Thema’r Rhuban Gwyn ar gyfer 2023 yw ‘Newid y Stori’.
Dywedodd Christian Hadfield, Pennaeth yr Adran Lleihau Risg, “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn adnabyddus am amddiffyn ein cymunedau trwy ymladd tanau ac achub pobl, ond mae gennym ni gyfrifoldeb hanfodol i gadw pobl yn ddiogel rhag niwed trwy fod yn Hafan Ddiogel i bobl ddod o hyd i gysur ar adeg angen neu drallod.
Mae ein Gorsafoedd Tân wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi ac amddiffyn unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig a bygythiadau eraill, fel ffordd o leihau risg i’n cymunedau. Fel Hafanau Diogel, maent yn fanau diogel y gall aelodau’r cyhoedd fynd iddynt os ydynt yn teimlo’n agored i niwed, mewn perygl neu dan fygythiad achos niwed. Mae ein Gorsafoedd yn lleoedd croesawgar a chyfeillgar yng nghanol y gymuned, gan eu gwneud yn lleoliadau delfrydol ar gyfer Hafanau Diogel.
Mae ein Hymladdwyr Tân yn brofiadol o ran helpu pobl mewn cyfnod trawmatig a bydd y fenter yn ein helpu i barhau i wasanaethu’r cyhoedd pan fyddant ein hangen fwyaf.
Ers i ni ddechrau’r fenter Hafanau Diogel, rydym wedi cael ein rhybuddio am 14 digwyddiad, gan gynnwys lle mae pobl yn eu defnyddio i ddianc rhag cam-drin domestig ac achlysuron eraill lle rydym wedi gallu cynorthwyo ein cymunedau ar yr union adeg yr oedd angen y cymorth hwnnw arnynt.”
Rhwng y 1af o Ionawr a’r 15fed o Dachwedd eleni, mae cofnodwyd 14 o ddigwyddiadau Hafan Ddiogel.
Ymhlith y digwyddiadau roedd: dyn a oedd yn ddigartref yn cael trafferth ar ei noson gyntaf ar y strydoedd, digwyddiad posibl o sbeicio diod menyw, dyn yr ymosodwyd arno, pobl ifanc oedd wedi rhedeg oddi cartref, a digwyddiadau eraill gyda phobl yn teimlo eu bod mewn perygl uniongyrchol.
Mae diffoddwyr tân eisoes wedi ennill Gwobr SFJ sef gymhwyster Sgiliau er Cyfiawnder fel rhan o'u hyfforddiant i reoli achosion lle mae pobl mewn trallod, a byddant hefyd yn derbyn hyfforddiant diogelu pellach. Nid yw Hafanau Diogel wedi’u bwriadu i’w defnyddio ym mhob amgylchiad, a dim ond pan fo oedolyn neu blentyn mewn perygl dybryd. Os bydd rhywun yn mynychu ac nad yw mewn perygl uniongyrchol, gallent gael eu cyfeirio at wasanaethau a sefydliadau eraill sydd mewn gwell sefyllfa i’w helpu.